1 Lle digrif y bum heddiw
2 dann fentyll y gwyrdd-gyll gwiw
3 yn gwrandaw ddechrau dydd
4 Y ceiliog bron-fraith celfydd
5 Yn canu yng-lyn alathr
6 Arwyddion a llithion llathr
7 pellennic pwyll i anwyd
8 pell siwrneiai 'r llatai llwyd
9 yma doeth o swydd goeth gaer
10 Am ei erchi o'm eurchwaer
11 Geiriog hyd pann gair gwarant
12 Sef y cyrch i nentyrch nant
13 Amdanaw'r oedd gasmai
14 o flodau mwyn geingciau Mai
15 Ai gassul debygessynt
16 o escyll gwyrdd fentyll gwynt
17 Nid oedd yna myn Duw mawr
18 Ond aur oll yn dor allawr
19 Morfydd ae hanfonassai
20 Mydr ganiadaeth mab maeth Mai
21 Mi a glywn mewn gloew-iaith
22 ddatcanu nid methu maith
23 ddarllain i'r plwyf nid rhwyf rhus
24 Y fengil yn ddi fyngus
25 Codi ar frynn ynn yna
26 Afrlladen o ddeilien dda
27 Ac eos gain fain fangaw
28 o gwr y llwyn ger ei llaw
29 Clerwraig nant i gant a gan
30 Cloch aberth clau a chwiban
31 A dyrchafael yr aberth
32 hyd y nenn vwch benn y berth
33 A chrefydd i'm dofydd Dad
34 a charegl nwyf a chariad
35 Boddlawn wyf ir ganiadaeth
36 Bedwlwyn o'r coed mwyn a'i maeth
dd' ap Gwilym